Teithio Llesol a Thrafnidiaeth

Wrth ddylunio mynediad i’r datblygiad, rydym wedi ystyried cerdded a beicio yn gyntaf, ac mae ein cynlluniau’n cynnwys palmant a llwybr beicio. Nid oes llwybr ar hyn o bryd ar Ffordd Newydd, felly rydym yn credu bydd ein cynlluniau yn gwneud teithio llesol yn haws a fydd, er enghraifft, yn gwella mynediad i’r Ganolfan Gymunedol a lle chwarae wrth ymyl y datblygiad i drigolion lleol. Mae yna hefyd safle bws wrth ymyl y safle.

Rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn bwriadu cynnwys man gwefru ceir trydan a allai fod yn bosibl eu rhannu â thrigolion Aberporth, i helpu pawb symud tuag at gerbydau carbon isel.

Mae rhai trigolion wedi codi cwestiynau ynghylch mynediad ceir o ran diogelwch, a hoffem eu sicrhau ein bod wedi bod mewn trafodaethau helaeth â thîm priffyrdd Cyngor Ceredigion i sicrhau bod y dyluniad yn ddiogel ac yn briodol.

Adborth