Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Mae sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol yn flaenoriaeth i ni. Bydd pob cartref yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy trwy bympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar gyda batri wrth gefn.
Byddwn hefyd yn darparu pwynt gwefru cerbyd trydan i bob cartref.
Rydym wedi cynnal ymchwil ac arolygon i weld sut y gallwn gynnal a gwarchod cymaint â phosibl o nodweddion naturiol y safle. Bydd y coetir sydd ar y safle yn cael ei gadw’n llawn, ynghyd â llawer o’r perthi naturiol ar bob pen i’r safle ac i lawr canol y safle lle mae ffin y cae.
Mae’r asesiad ecolegol wedi dangos nad oes rhywogaethau a warchodir ar y safle, ac mae’r arolygon yn dangos nad yw’r safle mewn perygl o lifogydd a ni fydd y datblygiad yn arwain at lifogydd pellach neu ansefydlogrwydd tir.
O ran dylunio ac adeiladu, byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn lleihau’r defnydd o garbon trwy ddefnyddio staff lleol, deunydd adeiladu carbon isel, a dyluniad sy’n effeithlon o ran ynni.
