Fe fydd 3 cartref yn cael eu rhoi o’r neilltu ar gyfer gweithwyr allweddol lleol ar 70% o gost y farchnad.
Mae’r adborth yr ydym eisoes wedi ei dderbyn gan drigolion lleol fel rhan o’r ymgynghoriad cyn ymgeisio wedi tynnu sylw at yr angen gan bobl leol i sicrhau cymysgedd o dai i deuluoedd lleol, pobl ifanc a gweithwyr allweddol yn Aberporth.
Rydym wedi diwygio’r dyluniad i gynyddu nifer y cartrefi ar y safle, gan barhau i gynnal digon o ofod a rennir, er mwyn cynyddu’r nifer o gartrefi a fydd yn cael eu rhoi o’r neilltu ar gyfer gweithwyr allweddol lleol i dri.
Rydym wedi edrych eto ar y dyluniad i sicrhau y bydd y cartrefi ar gyfer gweithwyr allweddol lleol yn gartrefi teulu priodol o ansawdd uchel, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu bod ar gael ar 70% o gost y farchnad.
Mae’r meini prawf a’r diffiniad o ‘Weithiwr allweddol’ wedi’i amlinellu gan Gyngor Sir Ceredigion, yn ogystal â’r meini prawf a diffiniad o ‘leol’. Mae mwy o wybodaeth am y polisi ar gael yma.
Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn golygu ei bod yn anodd dynodi pwy all brynu’r cartrefi eraill ar y safle, ond maent wedi cael eu dylunio i apelio i deuluoedd, neu gyplau, y rhai sy’n dymuno lleihau maint eu cartrefi neu ymddeol. Mae’r cynllun yn cyd-fynd â Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Ceredigion, sy’n dangos y bydd angen i bentrefi fel Aberporth ddarparu ar gyfer mwy o dai mewn blynyddoedd i ddod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n rhestr bostio er mwyn dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiad, yn ogystal â darganfod mwy am y cartrefi sydd wedi’u dynodi ar gyfer gweithwyr allweddol lleol, cwblhewch y ffurflen ar y dudalen drosolwg.
