Cartrefi newydd yn Aberporth
Rydym yn cynnig datblygiad pwrpasol ar Ffordd Newydd, Aberporth i ddarparu 15 cartref teuluol newydd o ansawdd uchel, gyda 2, 3 a 4 stafell wely. Bydd y datblygiad yn darparu cymysgedd o dai, gyda 20% o’r cartrefi wedi’u penodi’n benodol ar gyfer gweithwyr allweddol lleol am 70% o werth y farchnad.
Rydym wedi diweddaru ac addasu ein cynlluniau yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion Cynllunio Cyngor Ceredigion, ac mae ein cynigion bellach yn cynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely. Rydym hefyd wedi gostwng uchder y tai ac wedi diwygio’r trefniadau parcio ceir ac ychwanegu mwy o fesurau tirlunio.
Bydd gan bob cartref bympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar a hefyd man gwefru cerbydau trydan.
Byddwn yn cadw ymyl y coetir ar ochr ogleddol y prosiect, a rhannau o’r perthi presennol, a bydd llwybr cyhoeddus newydd yn gwella mynediad i’r Ganolfan Gymunedol a’r maes chwarae gerllaw.

Mae’r safle yng nghanol y dref, a fydd modd cerdded neu feicio i ganol y dref, yr ysgolion cynradd lleol, y traeth a chyfleusterau lleol eraill, a gyda arhosfan bysiau wrth ymyl y safle.
Mae galw sylweddol am gartrefi newydd yng Ngheredigion, ac mae’r cynllun datblygu lleol wedi amlinellu y bydd angen tai newydd yn Aberporth. Credwn fod y cynigion hyn yn adlewyrchu datblygiad sensitif mewn lleoliad priodol, a fydd yn darparu cartrefi teulu newydd y mae mawr eu hangen. Bydd y cartrefi yn apelio at deuluoedd neu gyplau, yn ogystal â rhai sy’n dymuno lleihau maint eu cartrefi neu ymddeol.

Dweud eich dweud
Os hoffech fynegi barn am y datblygiad newydd hwn, cwblhewch yr arolwg i roi eich adborth.

